Trip Dewi Emlyn (5.03) |
Niwl yn y ty (5.02) |
Erbyn 1988 'roedd y rhan fwyaf o bobl yn dueddol o gymeryd yr holl fusnes grwpiau Cymraeg yma'n rhy ddifrifol a dyma'r "band"/cyfres o gyd-ddigwyddiadau oedd y symbyliad i mi gychwyn cyfeiriad newydd gyda Neu.
'Roeddwn i (o'r diwedd) wedi cael gafael ar bres Ceri ac wedi prynnu Ensoniq ESQ1 ac 'roedd Glyn Gruffydd wedi "menthyg" ei portastudio i mi (am 4 mlynedd .....diolch Glyn). Wrth fenthyg mwy o stwff o nifer o ffynonellau 'roedd gennym rhyw fath o "stiwdio recordio".
'Roedd Huw Gwyn yn brysur fel arfer (unai'n cyhoeddi tapiau grwpiau Cymraeg lleol neu'n ffonio rhaglenni radio yn enw Dewi Emlyn ac yn recordio ei "gyfweliadau" ffug) ac yn chwilio am ail brosiect i Gasetiau Huw.
'Roedd Dafydd Ieuan a Gruff Rhys yn chwilio am le i arbrofi'n gerddorol felly trwy gyd-ddigwyddiad llwyr 'roedd y cerddorion, yr offer recordio, y peiriannydd, y cynhyrchwyr, y ci, ac hyd yn oed cyhoeddwr y tapiau yn yr un lle ar yr un pryd sef 5 Stryd Fictoria, Bangor.