NEWYDDION DIWEDDARAF / LATEST NEWS - 30.11.01



Fit! 012 : TYSTION - "EP Y Meistri" allan nawr/ out now
Dosbarthu/Distribution: Shellshock
info@shellshock.co.uk


Mae’r Tystion yn ol unwaith eto gyda’i record gyntaf ers eu albwm herfeiddiol “Hen Gelwydd Prydain Newydd”. Profa’r EP newydd hyn unwaith eto fod y Tystion yn feistri ar eu crefft - rapio chwim dros guriadau mawr caled, llinellau bas budur, crafidau tynn y Technics 1210’s a synnau mwy melodig y ffliwt. O anthem ‘old-skool’ “Y Meistri” i’r atmosfferig, sinistr “Brad A Sarhad” ; gitar trwm a rappio cyflym caled “Yr Anwybodus” i grwf dawnsiadwy a ffynci “Dama Blanca” dyma record sy’n siwr o ddatblygu i fod yn glasur arall gan Tystion. Pump trac s’yn ymdrin a nifer o themau, gan gynnwys meistri hip hop, cyfiawnder ac anghyfiawder, McSwyddu, paranoia a crac cocaine. Mae’r criw ar fin dychwelid i’r stiwdio i ddechrau recordio eu albym nesaf, fydd allan yn 2002 ar Fitamin Un.

"Y Meistri" Real Audio | Archebwch gopi o "Y Meistri"

Tystion are back with a vengeance with their first release since last years incendiary album “Hen Gelwydd Prydain Newydd” [New Britain’s Old Lies]. “Y Meistri” proves once again that Tystion are the masters of their skills - razor sharp rhymes over hard as steel beats; big, dirty basslines and tight cuts courtesy of the Technic 1210’s.From the old skool anthem of “Y Meistri” to the atmospheric and sinister “Brad A Sarhad” ; from the heavy guitars and fast furious rapping of “Yr Anwybodus” to the funky grooves of “Dama Blanca” this EP is certain to become another Tystion classic. Five tracks exploring a variety of themes, including hip hop masters, justice and injustice, McJobs, paranoia and crack cocaine.Tystion are about to return to the studio to work on their next album which will be released on Fitamin Un in 2002.

"Y Meistri" Real Audio | Order a copy of "Y Meistri"