 |
Trafod
'Un Nos Ola Leuad'
|
|
Dywedodd Anthony Burgess
“Mae llenydda yn ymdrech i wella clwyf cig-noeth yn
yr enaid.” Drwy gydol ei fywyd ni fedrodd Caradog
Prichard wella’r clwyf yn ei enaid a bu profiadau
erchyll ei blentyndod yn corddi yn ei isymwybod ar hyd ei
oes - tan iddo ysgrifennu Un Nos Ola Leuad . Catharsis oedd
ysgrifennu’r nofel hon i Caradog Prichard.
Wrth ysgrifennu Un Nos Ola Leuad fe wynebodd Caradog Prichard
ei niwrosis - ei Gymhlethdod Oedipus - sef ei gariad obsesiynol
at ei fam. Yn y nofel mae’n gadael allan o gaethiwed
ei isymwybod un o’r delweddau fu’n ei boenydio
cyhyd - y plentyn dioddefus a fu’n crio yno mor hir
|
Disgrifiodd W.S.Stewart yn ei lyfr “The Divided Self”
(sy’n cofnodi salwch meddwl o deip Caradog Prichard)
y profiad fel hyn “roedd plentyn tanddwr,diamser, digyfnewid,
llawn dychryn a chwerwder wedi ei garcharu ynof i.....y plentyn
aflonydd, trasig, amhosibl ei gysuro oedd yn wylo a chrio
drwy’r dydd mewn carchar.....y plentyn wedi’i
niweidio oedd yn symbol o ran ohonof i... Fe geisiais ei ryddhau,
ei weld yn iawn, ei wneud yn real.” |
|
|
Byddai Jung yn galw’r plentyn dioddefus
yn isymwybod Caradog Prichard y Cysgod, y Dwbwl neu’r
Doppelganger. Mae'r Cysgod neu’r Dwbwl yn ffigur cyfarwydd
mewn llen gwerin a chwedloniaeth. Onid yw hi’n bosibl
adnabod llawer o elfennau’r Adroddwr/Em yn nisgrifiad
Heine “Der Doppelganger” - “Mae’r nos
yn llonydd a’r strydoedd yn dawel.. Yn y ty yma roedd
y ferch a gerais yn byw.. Fe adawodd hi’r ddinas amser
maith yn ôl.. Ond mae’r ty yn dal i sefyll lle safai
gynt...ac mae dyn yn sefyll, yn syllu fyny, yn cordeddu ei ddwylo..
Gwelaf ei wyneb....gwelaf yng ngolau’r lleuad mai fy wyneb
i ydyw. Ti ,ddrychiolaeth llwyd, yw fy nwbwl. Pam wyt ti’n
dynwared fy nghariad, fy mhoen, y dioddefaint a gefais yn y
lle yma. gymaint o flynyddoedd yn ôl.” |
|
|
Wrth wynebu’n onest y ddelwedd yma a fu’n
corddi yn ei isymwybod a’i dwyn i olau dydd mae Caradog
Prichard yn cyfaddef, iddo ef ei hun, ac i ninnau mai ef ei
hun yw Em yr oedolyn grotesg anaeddfed. Wrth ddod i olau dydd
yr ymwybod o’r isymwybod fe welir y Cysgod, y Dwbwl, y
plentyn dioddefus, am yr hyn ydyw - sef oedolyn yn dioddef o
Gymhlethdod Oedipus – sef Em yr oedolyn anaeddfed, grotesg,
gwallgof sy’n cerdded y Lon Bost yn crio am ei fam. Mae
Caradog Prichard yn dweud yn symbolaidd wrthym ei fod yn dioddef
o Gymhlethdod Oedipus. |
Gosododd Caradog Prichard gliwiau geiriol yn y
nofel i ddweud wrthym fod yr Adroddwr sy’n cynrychioli’r
awdur ei hun ac Em yr un person. Mae’r ddau, yr Adroddwr
ac Em yn cerdded y Lon Bost yng ngolau’r lleuad i Ben
Llyn Du. Mae’r cliwiau geiriol sy’n cysylltu Em
gyda’r Adroddwr yn cael eu hailadrodd dro ar ôl
tro “wedi tynnu ei sgidia a’i draed o’n swigod
i gyd ac ynta’n crio a gweiddi am ei Fam.” (ailadroddir
y llinell hon yn y nofel) “Finna’n cofio bod Em
hefyd wedi tynnu am ei draed pan gawson nhw hyd iddo fo.”
|
|
Mae’r Adroddwr run fath ag Em yn tynnu’i sgidiau
(ddwywaith) “Mi dynna i r hen sgidia yma am funud bach”,
ac mae’r Adroddwr run fath ag Em yn crio am ei fam “Mi
weidda i M-a-a-a-m.” Ceir cliw geiriol arall sy’n
cysylltu Em a’r Adroddwr mewn perthynas â Jini
Bach Pen Cae. Ar ddechrau’r nofel mae “Em wedi
mynd â hi efo fo i Goed Allt Braich. Yn y coed cawson
nhw hyd iddi fore trannoeth yn cysgu’n braf.”
Yn y bennod olaf mae’r Adroddwr yn gwadu iddo lofruddio
Jini Bach Pen Cae ac yn dweud “Peth dwetha ydw i’n
gofio ydy i gweld hi’n cysgu’n braf.”
|
|
Mae Em wrth gwrs yn fwy na symbol o Caradog Prichard
ei hun - mae’n symbol o bob dyn. Symbol o daith boenus
dyn drwy fywyd creulon diystyr yw Em gwallgof yn crio am ei
fam wrth gerdded y Lon Bost ar ei daith i Ben Llyn Du (marwolaeth).
Symbol o boen bywyd yw’r swigod ar draed Em. “Em
...oedd y cynta rydw i’n gofio yn cerdded cyn belled a
Pen Llyn Du... fe gawson hyd iddo fo fan honno, ar ei liniau
ar ochr y Lon wedi tynnu ei sgidia a’i draed yn swigod
i gyd ac yntau’n crio a gweiddi am ei fam.” |
Darlun grotesg, creulon yw darlun Caradog Prichard o ddyn
ac o’r byd - nid annhebyg i’r darlun a geir yn
nrama Shakespeare “Brenin Llyr”. A’r un
yw ei gwestiwn â Shakespeare - Onid gwallgofddyn yn
crio am ei fam ar ei daith boenus yng ngolau’r lleuad
i Ben Llyn Du yw dyn? “Is man no more than this? Unaccommodated
man is no more, but such a Poor, bare, forked animal as thou
art.”
Nid Em - y Cysgod neu’r Dwbwl yw’r unig Archeteip
yn y nofel wrth gwrs. Mae delweddau eraill sy’n gyffredin
mewn niwrosis a salwch meddwl yma - sef y Llais a’r
Tad Ceryddgar, Erlidus.
Mae Jung yn disgrifio’r modd mae’r Llais (sy’n
llefaru ag awdurdod dwyfol) yn gyffredin mewn salwch meddwl.
Meddai Jung “mae gweithgaredd digymell y meddwl yn mynd
mor frwd nes yn aml mae’r claf yn gweld darluniau gweledigaethol
neu glywed lleisiau mewnol.” Mae’r Llais fel arfer
yn siarad ag awdurdod dwyfol - ac nid oes gan y claf neu’r
niwrotig reolaeth o gwbl dros y Llais yma. Yn y nofel y Fam
Gosmig sy’n llefaru drwy gyfrwng y Llais.
Delwedd neu Archeteip arall cyffredin mewn niwrosis yw’r
Tad Ceryddgar - sef yr Angel yn y nofel sy’n erlid y
plentyn yn ei freuddwyd. Mae Caradog Prichard wedi awgrymu
tarddiad y ddelwedd yma yn ei ddarlith “Y Rhai Addfwyn”
- “Ar bared y siambr yn ein cartref bach llwm yng Nglanrafon
byddai dau ddarlun. Llun fy nhad ydoedd un - ynddo ef y cafodd
ei blentyn ei ddelwedd gyntaf o dduw. Pan syllwn arno o’r
gwely ymddangosai weithiau yn Dduw gras a chariad - dro arall
- a hynny pan fyddwn wedi gwneud rhyw ddrygioni a’r
gydwybod yn fy mhoeni - Duw cas a cherydd a. welwn yn llun
fy nhad.”
Yn y nofel llun o wyneb dyn ar y mur sy’n ysgogi’r
hunllef lle gwelir yr Angel Erlidgar “Wrth ben lle tân
oedd yna lun mawr o wyneb dyn a mwstash du gynno fo.”
Delwedd o Dduw cas a cherydd, Archeteip y Tad Ceryddgar, Erlidus
yw’r Angel sy’n ymlid y plentyn (“Ogre aspect
of the father”). Dyma ddisgrifiad Stewart o’r
modd y poenydiwyd ef yn ei salwch gan ddelwedd y Tad Ceryddgar
- “ rhaid i mi rywsut, rywfodd orchfygu’r ddelwedd
o dad Dyn-Dduw ofnadwy yma sydd wedi fy nghroeshoelio i cyhyd,
y ddelwedd y mae fy enaid wedi ffoi oddi wrtho yn sgrechian
ac yn gwaedu. Rhaid i mi afael ynddo a’i ddal fel Jacob
yn ymgodymu â’r Angel.”
Onid yw disgrifiad Caradog Prichard o’r modd y poenydiwyd
ef gan ddelwedd y Tad Ceryddgar yn anhygoel o debyg?
“... dyma angel mawr yn fflio lawr ....Angel yn sgyrnygu
arnaf i o dan ei fwstash du.... a disgyn ar fy mhen i...ac
yn trio taflyd ein gilydd run fath ag oedd yr angal hwnnw
efo Jacob.”
Ceisio dod i delerau â delwedd y Tad Ceryddgar oedd
yn corddi yn ei isymwybod oedd y plentyn yn ei freuddwydion.
|
|
|