Beth
am roi cynnig ar feddalwedd OpenOffice.org i greu dogfennau testun,
prosesu geiriau, llunio cyflwyniadau, lluniadu, ac i arbed a phrosesu
gwybodaeth ar daenlenni? Mae OpenOffice.org nawr ar gael yn rhad
ac am ddim ar gyfer systemau Windows a Linux, ac mae fersiwn Mac
OS hefyd yn cael ei datblygu. Ond pam ddyliech chi newid o MS Office
i ddefnyddio'r meddalwedd hwn?
- mae'r
rhyngwyneb yn gwbl Gymraeg
- mae
gwirydd sillafu Cymraeg yn rhan o'r system
-
mae'n rhad ac am ddim
-
mae'n feddalwedd cod agored o safon uchel
-
mae'n cynnig opsiwn arall, gwell i feddalwedd Microsoft
Gallwch
weld sgrinluniau o'r meddalwedd drwy glicio fan
hyn, neu ddod i wybod mwy amdano a sut i gael gafael arno drwy
glicio fan hyn.
Mae www.meddal.com wedi cynhyrchu
CD sy'n cynnwys meddalwedd OpenOffice.org, porwr gwe a rhaglenni
ebost pwerus Mozilla, gwirydd sillafu a llawer mwy. |