siaced lwch record hir Lleisiau

Yn 1975 rhyddhaodd Mudiad Adfer record hir o'r enw Lleisiau oedd yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid amrywiol. Cytunodd yr artistiaid a chynhyrchwyr y record i berfformio a gweithio am ddim er mwyn Adfer a'r Fro Gymraeg.

Mae llawer o'r caneuon arni yn brin, a does dim modd cael gafael mewn ambell un yn unman arall.


Gallwch lwytho'r caneuon sydd ar record hir Lleisiau i'ch cyfrifiadur ar ffurf ffeiliau MP3 drwy ddilyn y cyfarwyddiadau sydd ar y dudalen hon. Mae modd i chi wrando ar rannau o'r gân tra'i bod yn llwytho ac yna ei harbed ar eich cof caled.

I gael manylion llawn am y caneuon a'r nodiadau o siaced lwch y record cliciwch ar y groes Geltaidd ar y chwith.

Gallwch lwytho'r caneuon ar ffurf ffeiliau MP3 o un o ddau faint. Mae'r ffeiliau mwyaf - sef y fersiwn gwell (80kbs) - yn cymryd hirach i lwytho. Os oes gennych gysylltiad band llydan llwythwch rhain. Fel arall, gall y fersiwn hwn o bob cân gymryd hyd at 15 munud i lwytho ar gysylltiad modem 56k. Os ydych am gael blas o'r caneuon yn unig llwythwch y fersiwn gweddol (40kbs). Dyw'r safon ddim gystal ond maen nhw'n llwytho'n gynt. Diolch yn fawr i Dylan Williams o Ystrad Aeron am ddigideiddio a glanhau'r gerddoriaeth o'r record wreddiol.
Cofiwch arbed y ffeil i'ch cof caled wedi iddi lwytho (File > Save as)
Teitl Artist
Fersiwn gweddol: 5 munud yr un i lwytho
Fersiwn gwell:
hirach i lwytho
Cei Cwrwgl Sam
A oes heddwch Cleif Prendelyn
Cymer ddwr, halen a thân Dewi Morris
Dic Penderyn Meic Stevens
Difaru Potes Maip
Clychau Cantre'r Gwaelod Hergest
Symud mlân Bili Dowcar a'r Gwylanod
Henaint Cwrwgl Sam
Maes Gwenllian Owen/Edwards - Cleif Prendelyn
Nis gallwn i weled Morus Elfryn
Padi Mynediad am Ddim
Wncwl Dan Bili Dowcar a'r Gwylanod
Santiana Meic Stevens
Pen y daith Phil Edwards
Gwaed yr haul i'r pridd Hergest
Draw ar y mynydd Cleif Prendelyn