Anfon ebost i'r Faner Newydd
Llythyrau Garth Celyn
Yn Nhachwedd 1282 mae John Pecham, Archesgob Caer-gaint, yn dod i Abergarthcelyn ar ran Edward 1af a Senedd Loegr i gynhadledd heddwch. Yn cynrychioli’r Cymry mae’r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd, sydd wedi cael profedigaeth bersonol fawr ym Mehefin y flwyddyn dyngedfennol honno gyda marwolaeth ei wraig Elinor ar enedigaeth eu hunig blentyn, Gwenllian.

Gyda Llywelyn yn y trafodaethau mae Dafydd ap Gruffudd, ei frawd, a Chyngor y Tywysog. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal dros dridiau, o’r 3ydd hyd y 6ed o Dachwedd.

Mae’r lluoedd Seisnig wedi meddiannu’r rhan helaethaf o Wynedd Is-Conwy ac wedi cyrraedd cyn belled i’r gorllewin â Rhuddlan. Mae llongau Edward 1af wedi cludo marchogion a gwyr traed i Fôn, ac mae lladd ac ysbeilio dros yr ynys, llosgi eglwysi, llysoedd y cymydau a bythynnod y werin, a llosgi eithin a choedlannau i geisio’r sawl a fyddai wedi ffoi ac ar herw.
















Bydd y fyddin, sydd ar y pryd yn ymgasglu dan arweiniad Edward 1af, yn un ddychrynllyd o sylweddol. Erbyn iddi chwyddo i’w llawn faint mae ynddi 5,000 o wyr taed; 1,000 o filwyr o Swydd Amwythig; 2,000 o Gaer, 1,000 o dde-orllewin tir y Mers, sef Swyddi henffordd a Chaerloyw. Hefyd at wasanaeth y brenin mae 1,313 o wyr traed yn arbenigo mewn saethu’r bwa croes; 210 o wyr meirch o Gwasgwyn, Ffrainc, gyda 400 o farchogion hyfforddedig i drin y bicell hir. Ac i gefnogi ar fôr, mae ganddo 40 o longau. Mae cost y cwbl yn £150,000.

Cyn y trafodaethau, mae Pecham wedi derbyn cwynion y Cymry yn erbyn y gormes mewn dau lythyr yn benodol o Wynedd, y naill gan Llywelyn a’r llall gan Dafydd, ei frawd. Dyma gynnwys llythyr Llywelyn ar Hydref 1leg. Mae’r amgylchiadau sy’n cael eu disgrifio yn ein hatgoffa o’r math o weithredoedd erchyll a gyflawnwyd yn Kosovo a Bosnia yn ddiweddar, ac sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Chechnya.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

At yr Arglwydd John trwy ras Duw archesgob Caer-gaint Pen eglwys holl Loegr.

Gyda phob anrhydeddus barch rhown ein gwir ddiolch i chwi am eich trafferthion costus a phoenus yn eich cariad amlwg tuag atom ni a’n cenedl. Yn eich gwahoddiad i ni ddod i heddwch y brenin ni allwn lai na datgan ein bod yn barod ac yn awyddus i wneud hynny, fel y gall y brenin yntau gadw’r heddwch tuag atom ninnau. Dymunwn hefyd eich arhosiad yng Nghymru, eto gobeithiwn na fydd unrhyw rwystr i sefydlu heddwch yn fuan. Gobeithiwn weld sefydlu’r heddwch trwy eich llaw chwi yn hytrach nag unrhyw un arall, fel na fydd angen dod a’n hawyddfryd i sylw’r Pab.

Ni fydd gofyn ychwaith i’r brenin ddefnyddio trais yn ein herbyn, yr ydym yn addo ufudd-dod ym mhopeth os anrhydeddir ein cyfraith a’n hawliau”.

Er fod teyrnas Loegr dan fendith arbennig y Pab, eto pan ddaw ei arglwyddiaeth a Llys Rhufain i wybod am y dinistr mawr a achoswyd i ni gan y Saeson: cytundebau heddwch wedi eu rhoi dan lw yn awr wedi eu hanwybyddu a’u torri; ysbeilio a llosgi ein heglwysi; llofruddio gwasanaethwyr yr eglwys, yn ordeiniedig a lleyg; llofruddio gwragedd a mamau; dinistrio ein hysbytai a thai crefyddol; llofruddiaeth dynion a gwragedd ar dir cysegredig, hyd yn oed o flaen allorau; gobeithiwn y byddwch chwi a Llys Rhufain yn gweld ein cystudd, yn tosturio wrthym ac nid yn ein cosbi.

Nid yw’n fwriad gennym darfu ar nac ymyrryd o gwbl yn nheyrnas Loegr, dymunwn weld gorseddu heddwch tuag atom ni a’n pobl.

Nid oes amheuaeth pwy sy’n ymhyfrydu mewn rhyfel a thywallt gwaed, y mae eu gweithredoedd yn amlygu eu hymddygiad.

Yn unig dymunasom fyw ar yr hyn oedd eiddo i ni ond daeth y Saeson gan wanu popeth â’u cleddyf heb arbed merched, henoed na’r claf; heb barchu eglwys na thy crefydd; yr hyn ni wnaethai’r Cymry erioed.

Gofidiwn o glywed am yr un a laddwyd ar ôl talu ei ddirwy, nid ydym yn arddel y troseddwr, y mae wedi dianc ac ar ffo yn y coedwigoedd. Nid oedd yn hysbys i ni hyd yn awr am ddechreuwyr y rhyfel hwn. Dywedir fod ei gychwyniad yn anghyfiawn ond fe’n hysbysir gan y rhyfelwyr nad oeddynt yn ddiogel yn eu tai a’u bod wedi eu gorfodi i wisgo arfau. Mewn ofn y bu iddynt gychwyn eu hachos.

Am ein troseddau yn erbyn Duw, gyda chymorth ei ras, fe drown ato ac edifarhau fel y dylai pob Cristion. Ni ddymunwn barhau’r rhyfel, dymunwn fyw yn ôl ein harfer, yn ddiogel, ac eto yn wyneb cael ein lladd a’n hysbeilio ni allwn lai nag amddiffyn ein hunain.

Mewn achos o arolwg teg o gamweddau’r ddwy blaid yr ydym yn addo gwneud iawn am bob drwg neu ddifrod a wnaethpwyd gennym, hyd eithaf ein gallu. Rhoddir yr addewid yma mewn gobaith y bydd i’r brenin wneud yn gyffelyb. Yr ydym yn fwy na pharod i weld heddwch, ond ym mha fodd y daw tra bo siarter y brenin er wedi ei gadarnhau yn aros heb ei weithredu a’i gadw?

Gormesir ein pobl yn ddyddiol gan drethi cynyddol ac yr ydym wedi amgau rhestr o’r troseddau a wnaed i’n herbyn yn groes i addewidion yr heddwch blaenorol.

Yr ydym wedi codi arfau am fod amgylchiadau yn ein gorfodi. Yr ydym ni a’n pobl wedi ein gormesu cymaint, wedi ein sathru dan draed, wedi ein difetha a’n dwyn i gaethiwed gan swyddogion y brenin, ymron yn yr un modd â’r Saraseniaid a’r Iddewon.

Lawer gwaith y bu i ni gwyno i’r brenin heb gael dim cyfiawnder, yn wir bob tro gwelid creulondeb y swyddogion yn cynyddu. Fel y cyfoethogid y swyddogion trwy eu twyll aent yn fwy chwantus gan reibio’r rhai a ysbeiliwyd eisoes. Y mae’n well gan y bobl farw na byw tan y fath orthrwm.

Nid oes angen codi byddin i ryfela yn ein herbyn na defnyddio swyddogion eglwysig i sicrhau heddwch gwirioneddol. Ni ddylech, Barchedig archesgob, roi coel i holl dystiolaeth ein gelynion, y maent mor barod i’n henllibio a’n cyhuddo’n gelwyddog ag ydynt i’n gormesu mewn gweithred. Gwnant eu cyhuddiadau er mantais hunanol.

Y maent hwy bob amser gyda chwi, a ni yn absennol; hwy yn gormesu a ninnau’n orthrymedig. Dymunwn ar y chwi, er mwyn yr Un na ellir cuddio dim byd rhagddo, i beidio a chredu eu geiriau, ond i edrych yn hytrach ar eu gweithredoedd. Felly, gyda’r deisyfiad yma dywedwn ffarwel.

Ei was ffyddlon a gostyngedig, Llywelyn ap Gruffudd, Arglwydd Eryri a Thywysog Cymru. Rhoddwyd yng Ngarth Celyn, Hydref 11 eg 1282.
Gyda byddin Lloegr wedi meddiannu Llanfaes, prif dref Gwynedd yn y cyfnod, yn ne-orllewin Môn, gyferbyn ag Abergarthcelyn, mae’r Archesgob Pecham a’i uchel-swyddogion yn cyrraedd llys Garth Celyn. Mae’r trafodaethau’n agor gyda Pecham yn darllen llythyr Llywelyn yn cynnig telerau heddwch, a hynny yng ngwydd Cyngor y Tywysog.

Yn ddiweddarach, tra bod Cyngor y Tywysog yn trafod y cynigion, mae Pecham, wedi ei ddwyn o’r neilltu i gael gair yn bersonol ag ef, yn cyflwyno cynigion yn ddirgel i Lywelyn. Yn ôl yr amodau cyfrinachol hyn, mae Llywelyn yn cael cynnig stad werth £1,000 o bunnoedd y flwyddyn mewn rhenti deiliaid yn Lloegr - mewn gair, safle barwn cyffredin - ar yr amod ei fod yn trosglwyddo Eryri i Edward 1af fel eiddo personol yn gyflawn ac am byth. Hefyd, o dderbyn yr amod, adroddir wrth Llywelyn y bydd pendefigion Lloegr yn ceisio darbwyllo’r Brenin i ddarparu dros Gwenllian, merch Llywelyn.
Ychydig ddyddiau wedi i Pecham ymadael â Garth Celyn, mae Llywelyn yn llunio llythyr i’w ateb. Ag ystyried yr amgylchiadau enbyd, a’r bygythiadau o bob tu, mae ateb Llywelyn yn rhyfeddol o ddisgybledig ac urddasol.




At y Parchedig Dad, Ioan, Archesgob Caer-gaint, Llywelyn, Tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri, yn anfon annerch.

Sanctaidd Dad, yn unol â’ch cyngor, yrydym yn barod i ddyfod i heddwch â’r brenin, ond eto mewn dull diberygl a gweddus i ni ein hunain. Ond gan nad ydyw y dull cynwysedig yn y telerau danfonedig atom ddim yn y lleiaf yn weddus nac yn ddiberygl, fel yr ymddengys i ni a’n cyngor, ac am ba un y mae pawb a’u clywsant yn rhyfeddu’n fawr, am ei fod yn tueddu yn fwy i’n dinistr, a distryw ein pobl a ninnau, nac i’n hanrhydedd a’n diogelwch; ni âd ein cyngor i ni mewn un modd gytuno iddo, pe dymunem; a’r pendefigion eraill hefyd, a’r bobl dan eu llywodraeth, ni chydsyniant iddo, oherwydd y dinistr a’r dilead diamheuol a ddigwyddent o hynny.

Ond eto erfyniwn ar eich Tadoldeb, gan eich bod wedi llafurio cymaint hyd yn hyn tuag at ffurfio heddwch dyledus, gweddus, a diogel, y bydd i chwi barhau hynny, gan ddwys ystyried y telerau y rhai a ddanfonasom atoch yn ysgrifenedig. Oherwydd y mae yn fwy anrhydeddus ac yn fwy cyson a chywirfarn, fod i ni, y rhai sydd gennym hawl i’r tiroedd, eu dal hwy dan yr arglwydd Frenin, na’n dietifeddu ni a’u traddodi i ddieithriaid.

Rhoddwyd yng Ngarth Celyn ar ddydd Gwyl San Farthin (Tachwedd lleg)
Ac i gefnogi Llywelyn mae Cyngor y Tywysog, y pendefigion (magnates - gwyr mawr), yr arweinwyr crefyddol a phrif swyddogion gweinyddiaeth y tywysog, hefyd yn llunio ateb ysgrifenedig i Pecham. Mae eu hateb yn dangos bod Llywelyn wedi rhoi gwybod iddynt am y cynigion dirgel a dderbyniodd.
Ni ddylai’r Tywysog daflu i’r naill ochr ei etifeddiaeth ei hun ac eiddo ei hynafiaid yng Nghymru a derbyn tir yn Lloegr ac yntau’n anghyfarwydd â’r iaith, y ffordd o fyw, y deddfau a’r arferion yno... Bydded hysbys hyn: ni chaniatâ ei Gyngor iddo ildio... a hyd yn oed pe bai’r Tywysog yn dymuno trosglwyddo (ei bobl) i feddiant y Brenin, ni fynnant hwy wneud gwrogaeth i’r un dieithryn, a hwythau’n gwbl anghyfarwydd â’i iaith, ei ffordd o fyw, a’i ddeddfau. Wrth dderbyn hynny gallent orfod dioddef cael eu caethiwo a’u trin yn greulon fel y cafodd cantrefi eraill...eu trafod gan feiliaid y brenin a hynny mewn dull mwy creulon nag eiddo’r Saraseniaid.

Mae Dafydd, hefyd, yn derbyn cynigion personol yn y dirgel yng Ngarth Celyn. Darllenir iddo’r amod canlynol gan Pecham neu gan un o’i uchel-swyddogion, sef bod Dafydd yn ymuno a’r Groesgad ym Mhalesteina:

"Os, er clod i Dduw ac iddo’i hun, y cymer efy groes ac yr â i’r Tir Sanctaidd, darperir iddo yn anrhydeddus, ond ar y telerau na ddychwelai oni elwid arno trwy diriondeb y brenin...Yr ydym yn ysgrifennu pethau celyd, ond llawer caletach fyddai rhuthro arnoch trwy nerth arfau, ac yn y diwedd eich hollol ddiddymu; ac y mae’r peryglon hyn yn cynyddu yn barhaus. Eto, peth anodd iawn yw bod bob amser mewn rhyfel; byw mewn blinder corff ac ysbryd, a beunydd yn ymdroi mewn dichellion, ac heblaw hynny, byw a marw mewn pechod marwol diderfyn a chasineb."

Yna, mae Pecham yn bygwth esgymuno Dafydd am ei weithredoedd yn erbyn y Brenin. Mae Dafydd yn ateb ar lafar, ac mae clerc Pecham yn cofnodi:

Pan elo ef (sef Dafydd} i’r Tir Sanctaidd, ef a â o’i fodd ac o’i galon i Dduw ac nid i ddynion,- a thrwy ganiatâd Duw nid â yno yn anfoddlawn, canys gwyr fod gwasanaeth trwy drais yn anfoddlawn gan Dduw....nid yw y Tywysog a’i bobl yn cynnal rhyfel yn erbyn neb o achos casineb neu elw, trwy ymosod ar diroedd eraill; ond er amddiffyn eu hetifeddiaeth a’u breintiau, a’u rhyddid eu hunain; a’r arglwydd Frenin a’i bobl a gynhaliant ryfel er mwyn hen gasineb ac ysbeilio ein tiroedd ni. Rydym yn credu ein bod yn cynnal rhyfel cyfiawn, a gobeithiwn yn hyn y bydd i Dduw ein cynorthwyo, a thrwy Ei ddwyfol ddialedd yn erbyn difrodwyr yr eglwysi, y rhai yn llwyr a ddinistriasant, ac a losgasant, ac a ysbeiliasant o’u dodrefn sanctaidd; a laddasant yr offeiriaid, y crefyddwyr llenyddol, y cloffion, y byddariaid, y mudion, y plant yn sugno bronnau, y methedig, a’r cystuddiedig, heb arbed na gwryw na benyw; felly bydded ymhell oddi wrth eich Sanctaidd Dadoldeb daranu unrhyw ddedfryd yn erbyn neb oddi eithr y sawl a gyflawnasant y cyfryw bethau...
Canlyniad derbyn llythyr Llywelyn a llythyr ei Gyngor fu i’r trafodaethau ddod i ben. Mae’r Archesgob Pecham yn dychwelyd at Edward 1af gan felltithio cyfraith Cymru, sef Cyfraith Hywel, ac annog y brenin i goncro Cymru fel yr unig waredigaeth a’r unig ffordd i ddileu barbariaeth yng Nghymru.

Roedd Llywelyn a Dafydd, yn eu penderfyniadau yng nhrafodaethau Garth Celyn, mewn gwirionedd wedi eu condemnio eu hunain i farwolaeth. Gallasai’r naill a’r llall fod wedi derbyn telerau Edward 1af, torri eu henwau dan yr amodau a cherdded allan gan sicrhau eu bywydau, o leiaf. Ond yn yr awr fwyaf cyfyng yn eu hanes, mae’r ddau yn sefyll yn driw i’w pobl ac i’w gweledigaeth wleidyddol a diwylliannol er gwybod yn burion fod drws ymwared wedi ei gau.

Ymhen mis, mae Llywelyn wedi ei ddienyddio ar gwr Buallt; ymhen un mis ar ddeg mae Dafydd ei frawd wedi ei ddienyddio yn Amwythig, ac ymhen deng mis wedi lladd Dafydd mae Edward laf ei hun yng Ngarth Celyn, yn treulio wythnos yno gyda’i osgordd rhwng yr 22ain a’r 28ain o Awst yn awdurdodi ei swyddogion i wneud stent, sef arolwg, o’r llys a’r faerdref.

Mae’r llythyrau hyn ymysg dogfennau pwysicaf Cymru, ac maen nhw i’w cymharu â llythyr Pennal Owain Glyndwr, ac â Datganiad Arbroath yn 1330 dros Annibyniaeth yr Alban.

Fel hyn y disgrifwyd y llythyrau gan John Davies: “... mae’r dogfennau a luniwyd... ymhlith cyfansoddiadau aruchel y genedl Gymreig”; a chan Rees Davies: “amddiffyniad huawdl a hynod urddasol o’u gwrthryfel fel brwydr i ddiogelu eu hunaniaeth genedlaethol fel pobl.”

Mae copiau mewn Lladin llaw-fer o’r llythyrau, a wnaed ar y pryd gan glercod Archesgob Pecham, yn cael eu cadw yn llyfrgell Palas Lambeth, sef cartref traddodiadol Archesbob Caer-gaint, yn Llundain. Maen nhw’n rhan o gofnodion neu gofrestr yr archesgob o dan y teitl Registrarum Epistrolarium Johannis Peckham Archiepiscopi Cantuariensis. Mae’n hanfodol fod copïau o’r dogfennau hanesyddol hyn yng Nghymru.

Fe ddylen nhw fod ar gael i’w gweld gyda fersiynau Cymraeg ohonyn nhw yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth ac yn Archifdy Gwynedd yng Nghaernarfon. Fe ddylen nhw gael eu harddangos yn gyhoeddus yn Siambr Cyngor Gwynedd yng Nghaernarfon ac yn Siambr y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd. Fe ddylen nhw, yn ogystal, gael eu harddangos yn Abergarthcelyn ei hun, a hynny mewn canolfan ddehongli hanes.
Anfon ebost i'r Faner Newydd