datblygu gwefannau Cymraeg

y tudalennau hyn
Mae cannoedd o dudalennau a safleoedd ar y we sy'n cynnig adnoddau am ddim i ddatblygwyr gwefannau. Mantais llwytho deunydd lawr o safle'r Faner Newydd yw bod y rhan fwyaf o'r cyfarwyddiadau yn Gymraeg, a chynnwys rhai o'r sgriptiau eisoes wedi cael eu cyfieithu i'r Gymraeg.

lefel gwybodaeth
Nid yw awduron y tudalennau hyn yn yn arbenigwyr ar ddatblygu gwefannau ac maen nhw'n dysgu trwy brofiad. Nid yw'r cyfarwyddiadau felly'n mynd i fod yn rhy gymhleth gan nad yw'r awduron yn deall llawer eu hunain! Os allwch chi gyfrannu unrhyw beth at y wefan, neu os oes gennych gwestiynau am y deunydd, cysylltwch â ni drwy glicio fan hyn. Bydd disgwyl eich bod yn deall rhywfaint am wefannau, a'ch bod yn gyfarwydd â html neu ddatblygu tudalennau gyda meddalwedd fel Dreamweaver neu MS Frontpage. Bydd datblygwyr gwefannau profiadol yn gwybod popeth sydd ar y tudalennau hyn.

beth sydd ar gael
Mae sgriptiau asp, deunydd Java a rhai sgriptiau php ar gael i'w llwytho lawr o'r tudalennau hyn gyda chyfarwyddiadau Cymraeg ar sut i'w defnyddio. Gallwch lwytho popeth sy'n cael ei ddefnyddio ar y safle hwn, gan gynnwys y Chwiliadur a'r Llyfr Ymwelwyr o fan hyn.

meddalwedd
php
Mae digonedd o feddalwedd php Cymraeg ar gael ar y we. Beth am roi cynnig ar lyfr lluniau coppermine, neu php nuke, neu galendr syml datenator?
deunydd Java
Mae'r deunydd Java sydd ar gael i'w lwytho lawr yn cynnwys sgrolwyr ar gyfer newyddion, baneri symudol, a chwiliadur java.
deunydd asp
Sgrptiau asp (gyda chyfarwyddiadau) i'w llwytho lawr, gan gynnwys chwiliadur asp, llyfr ymwelwyr, ffurflen a sgript asp i'w prosesu.