Dylai
ein strategaeth fod - nid yn unig i ymladd Ymerodraeth wyneb
yn wyneb ond i warchae arni. Ei hamddifadu o ocsigen. Ei
chywilyddio. Ei gwawdio. Gyda'n celf, ein cerddoriaeth,
ein llên, ein styfnigwrydd, ein llawenydd, ein hathrylith,
ein hymroddiad di-ildio - a'n gallu i adrodd ein storïau
ein hunain. Storïau sy'n wahanol i'r rhai y cyflyrwyd
ni'n feddyliol i'w credu.
Fe
fydd y chwyldro corfforaethol yn dymchwel os gwrthodwn ni
brynu yr hyn maen nhw'n ei werthu - eu syniadau nhw, eu
fersiwn nhw o hanes, eu rhyfeloedd nhw, eu harfau nhw, eu
syniad nhw fod y cyfan yn anorfod. (Arundhati Roy) |