Radio D RIP? Pan benderfynwyd i wneud y rhifyn hyn o Brechdan tywod yn deyrnged i'r orsaf radio Gymraeg gyntaf ar y rhyngrhwyd, roedd Radio D wedi dod i ben yn sydyn a diflannu am rhesymau dirgel oddi ar y We... Roedden ni fel llawer yn gweld ei eisiau hi. Ond bellach, ers mis rhagfyr mae Radio D yn ol! Mae'r orsaf wedi bod yn darlledu nifer o rhaglennu diddorol gan gynnwys noson o recordiau'r label Oggum a Sioe Nadoligaidd arbennig. Dyma alternatif i'r hyn mae Ra*** Cy*** yn eu gynnig ar nos Sul. Diddorol oedd gweld Menna Richards, un o fat cats BBC Cymru yn ateb cwestiynnau darllenwyr y Liverpool Daily Post mewn eitem cwestiwn ac ateb am y BBC yn nudalennau'r papur newydd llynedd. Un o'r pwyntiau a ymddangosodd yn yr erthygl oedd un gan neb llai na Johnny R: "Menna Richards has indeed succeeded in overseeing the completion of Radio Cymru in presenting the most bland, boring, Welsh Language station in years" Wrthgwrs ma fe'n hawdd i winjo yn y wasg a lladd ar Radio Cymru, ond mae mynd ati, fel naeth Johnny R, i rhoi gwasanaeth Radio ar y We yn rhywbeth arall. Fel y dwedodd Johnny R mewn llith ar safle Radio D llynedd, "Mae'n hawdd rantio yn y wasg am sefyllfa Radio cymru, ond rili anodd neud rhywbeth creadigol" Mae'r rhifyn hyn hefyd yn cynnwys discograffi o holl stwff R-Bennig o 1990 i 2000... hanner cant a mwy o recordiau amgen, arbrofol a diddorol mewn deg mlynedd. Gyda proffeil mor anhygoel a hyn fydde chi'n meddwl fase na rhyw rhaglen ar $4C neu erthyg hyd yn oed yn y wasg Gymraeg... ond na, mae'r label o Fon wedi ei anwybyddu yn llwyr gan y cyfryngau. Mihangel Macintosh. Ionawr 2000 [Brechdan Tywod #6 - 2001] |