Black Sheep 6
“The Wolf in Sheep’s clothing” medd ar y clawr. Dyma’r cylchgrawn satire gore yng Nghymru, ac yr unig un. Targedau yn cynnwys... y cynilliad, Llafur Newydd, Plaid Cymru, Toris, $4C, SWS, Yr Heddlu, Cynghorwyr pwdwr (shout out i Anglesleaze County Council)... yn hanfodol cic yn din y sefydliad, ac wedi ei sgrifennu’n ffraeth iawn.
A4.16tud £1.50 Tanysgrifiad blwyddyn:£12(di-waith) £18(cyflogedig)
Black Sheep Press,d/o 46 Kentish Town Rd., Llundain NW1 9PU, Lloegr


Speeder 4
Mwy o adolygiadau na allwch chi shiglo ffon ato. llond shed o wybodaeth, adolygiadau a chyfweliadau o’r sin danddaearol. Yn bendant werth copi os chi moen ffindo mas mwy am be sy’n digwydd tu hwn i fandiau diflas sy’n cael eu hyrwyddo gan yr NME. Yn debyg i rhaglen john Peel mewn cyfrwng geiriol. Mynnwch gopi a cysylltwch a’r bandie, ffansin’s, labeli, dosbarthwyr.
A5.56tud.£1.00 & SAE. Kylie Productions,Po Box 24148,Llundain SW181WU,Lloegr
Speeder@hotbot.com


My Strange Malady 1
Braidd yn rhyfedd... zine wedi ei enwi ar ol salwch yr awdur, ac *ahem* sy’n disgrifio’r symptomau anffodus rhwng y tudalennau. Yn ogystal, mae na micro-traethodau a adolygiadau ffansins a ffilms. Wierd.
A5.16tud.$2 & IRC.James N.Dawson, Po Box 613,Redwood Valley,95470, USA

Trucking & Paving 3
Six By Seven, Dandy Warhols, Goodspeed You Black Emperor, Hirameka Hi-Fi...Indie kids R us. Heblaw hynnu, erthygl di-bwrpas am gynhadledd ffansins yn Newcastle a layout di-dychymig. Dwi’n sylweddoli faint o amser sy’n mynd mewn i neud zine, ond ma rili angen neud ymdrech i neud e edrych yn dda i’r llygad hyd yn oed os ma’r cynnwys o ddim diddordeb.
A5.32tud 50c & SAE.67 Chalvington Rd.,Chandlers Ford,Hampshire SO53 3EF, Lloegr

Digital Artifact 17
Ffansin am gerddoriaeth dawns ac electronic o Boston UDA. Yn y rhifyn hyn, cyfweliad gyda’r Llwybr Llaethog! Hefyd BT, Balkan Tribes, Green Velvet, Karsh Kale a Mouse On Mars. Lot fawr iawn o adolygiadau,dyma’r beibl ar gyfer y sin ddawns danddaearol.
A5.64tud Am ddim. Brad Anderson,PMB 432,198 Tremont St.,Boston, MA02116-4705,USA
www.digitalartifact.org


Robots And Electronic Brains 8
Un o’n ffansin’s gore i ar y foment. Yn cynnwys adolygiadau gan fwyaf, lot o stwff obsciwer o bob man yn y byd. Ma Rhif 8 hefyd yn cynnwys BRA, Magnetophone, Illegal Art, Transistor Six a The Teenbeat. Yo Jimmy, Top of the Pops!
A5.48tud.£1 & SAE.Jimmy Possessions,133 Green End Road,Cambridge,CB4 1RW, Lloegr.
rebzine@hotmail.com www.come.to/robots


Planet Boo 43
Brief ’n’ brutal, ac yn cymryd y piss allan o Craig David, Marliyn Manson a Bryan Moloko. Ma nhw ar fin rhoi casgliad ammlgyfrannog at ei gilydd, felly os i chi mewn band neu yn neud miwsig, danfonwch eich tapie demo.
A5.4tud.Am ddim gyda SAE.41 Brae Tongue, Tounge,By Lairg, Shutherland IV27 4XN