ANWELEDIG - Scratchy (Zion Train Remixes) CD [Crai]

Gan adael Ceri C and co i foddi eu gofidion yn y glaw ym Mlaennau Ffestiniog, aeth Jo a Rhys o Anweledig lawr i Stiwdio Wibbly Wobbly yn tropical Sir Benfro heulog i yfed Rum, smygu sigarets llac a ail-ficsio stwff newydd y grwp gyda neb llai na'r dub merchants, Zion Train. Mae dylanwad dyb yn amlwg ar Scratchy, pwyslais ar reverb, bâs, ffilters a synnau spacey - mil o filltiroedd o Gymru, mil o filltiroedd o'r ddaear? Dwi ddim yn siwr be ma ffans y grwp yn feddwl o gyfeiriad cerddorol y CD 'ma, gyda absonoldeb unrhyw ganu, geiriau a gitars... ond ma'r EP yn rhywbeth gwahanol iawn ac fel project yn gweithio'n dda iawn cos ma'r dylanwadau dyb a reggae wastad wedi bod yn elfen o'i cerddoriaeth. Felly rhowch eich spectols haul ymlaen, agorwch potel o Malabu a edrychwch ar yr haul yn machlyd dros y Moelwyn....



LLWYBR LLAETHOG - Hip Dub Reggae Hop CD [Ankstmusik]

Nôl yn 1984 recordwyd y traciau rap cyntaf yn y Famiaeth gan Llwybr Llaethog a dyma gasgliad hanfodol o'i taith ar hyd y bymtheg mlynedd ers y garreg filltur "Rap Cymraeg". Ma'r CD 'ma yn cynnwys rhai o'r tracie mwyaf cutting edge a recordiwyd erioed yn y Gymraeg, clasuron modern fel "Popeth Ar Y Record Ma Wedi Ddwyn" a'r anhygoel "Gîmî Gîmî", trac hollol underatted gyda David R.Edwards yn neud yr m.i.c biz.

Ma Hip Dub Reggae Hop yn brawf o diversity cerddorol Ll.Ll. gyda'i cymysgiad cyfoes o nid yn unig hip hop, rap, dyb, reggae, ond hefyd cerddoriaeth Ty, asid, digital hardcore, ac yn fentrus a dyfeisgar mewn cyfnod pan oedd cerddorion eraill yng Nghymru heb syniad beth oedd sampler neu break beat. Casgliad o ganeuon wnaeth ddylanwadu ar nifer o fandie ar hyd y blynyddoedd gan ddangos eiddfedrwyd Ll-Ll o'r dyddie cynnar hyd at ddiwedd yr ugeinfed ganrif. Dyma gerddoriaeth unigryw sy'n llawn gwreiddioldeb gan grwp sydd wedi ei hanwabyddu yn rhy hir gan y llond dwrn o taffia di-glem sy'n rheolu radio a theledu y genedl. Ond ar y llaw arall, faint o grwpiau Cymraeg sydd wedi cael eu recordiau mas ar labeli fel ROIR o America? Dwi'n edrych mlaen at y cynhyrch newydd, sef album ar label Neud Nid Deud o'r enw "Stwff".

Ankstmusik, Yr Hen Orsaf Heddlu,Y Sgwar, Pentraeth, Ynys Mon LL75 8AZ www.ankst.co.uk


GANG WIZARD/ BLODEUDD 7" [Oggum]

Dau arist sydd ar ddau opposite pole"s... Mae Gang Wizard gyda'i racket o gitars a feedback yn llwyddo i neud Sonic Youth i rhoi eu bysedd yn eu clyste a janglo nerfau Mark E Smith - gwych! Ar yr ochr arall mae Blodeuedd yn arnofio o gwmpas mewn mor o ambience a synnau electronic tawel, moody a diddorol. Mae'r record ma yn gyfinedig i 300 copi yn unig, felly sgrifennwch bant nawr i: Oggum, Glynllifon, Pentre Isaf, Tregaron, SY25 6ND, Ceredigion. bbptc@ix.netcom.com

ATOMIC ROBO KID - Googlex/Magical Sound Shower 12" [PlasticRaygun]

Dwi'n sucker am packaging... odd jyst rhaid i fi brynnu fe ond doedd e... record 12" mewn static shield bag ar label Plastic Raygun o Gaerdydd. Serch hynnu peidiwch barnu record wrth ei glawr cos er mo'r wych ma fe'n edrych, diw'r cynnwys ddim mor anarferol, Ma ARK yn creu be sy'n swnio fel plentyn deuddeg mlwydd oed yn chware ymbyti gyda Spectrum yn ei 'stafell wely. Diw e ddim yn swnio'n ddigon eithafol neu arbrofol i fod yn ddiddorol ond ar y llaw arall dydi ARK ddim yn creu grwfs dawnsiadwy y gallwch chi ollwng lawr yn y clwb.


STEPS PISTOLS - Nevermind The Boy Rock 7" [Sonic Art Union]

Digital 'ardcore? Tanddaearol? Made In Wales? Abertawe? Ydy hwn yn jôc? Na, ma fe'n ffycin wych! Trac gore ydy "Kick out The Jams Motherfuckers", ond teitl gore - "Boyzone Kill Hippies". Byddarol....stepspistols@hotmail.com

KID 606 - Down With The Scene CD [Ipecac Recordings]

Album hirddisgwyliedig y Kid, undeg saith o draciau gwefreiddiol wedi eu hacio a'i ffycio lan ar ei laptop. ... os i chi moen caneuon gyda tiwn bach neis yna peidiwch darllen ymlaen. Mae'r dylanwadau yn dod o Hip Hop, tecno, gabba, jyngl, grynj a pync , ac yn cael eu cymysgu'n ddidrigaredd i greu wal o swn anferth. Uchafbwyntiau'r albym yn cynnwys "Luke Vibert Can Kiss My Indie-Punk Whiteboy Ass" (Teitl gwych); deinamics ffync modern "GQ On The EQ" a triniaeth ragga jyngl-aidd y tracie bonws, "Catstep", "My Kitten" a "Catnap" wedi eu ailgymysgu gan Hrvatski. Os oes un record sy'n rili bwysig yn 2000 ac sy'n garreg filltur i ddatblygiad ac esblygiad cerddoriaeth fodern - dyma fe. Ffyced up ffync i'r Unfed Ganrif Ar Ugain.