Pwy sy'n gweud fod y sin danddaearol wedi marw mas? Mae'n fyw ac yn iach, diolch i bobl fel R-Bennig, Radio D, Llwybr Llaethog, Recall, Headcase, Audio Air Strike, BomBoomBomB a llu o grwpiau, DJ's ac unigolyn sy'n dal ati i'w hyrwyddo a'i gynnal. Yna cymerwch aelod newydd i rhengoedd y sin... DJ o Gaerdydd sydd wedi bod yn llechu yn y dirgel yn rhy hir, sef y TRAWSFYNYDD LO-FI LIBERATION FRONT.

Yn sgil cryn dipyn o airplay ar yr orsaf radio arbrofol Radio D, mae'r TLLF yn mynd o nerth i nerth, gyda dau drack ar CD ddiweddaraf R-Bennig, uchafbwyntiau'r sioe ar mp3.com; perfformiadau byw yn y noson Continual Sound Labordy Swn Cont yng Nghaerdydd a chreu enw i'w hynan ar y sin danddaearol. Ond pwy sydd tu ol i'r enw, a pam ei bod nhw'n dod o Gaerdydd ond yn galw eu hynnan ar ol penref anghysbell yng Nghogledd Cymru?

DJ Geiger ydy TLLF ac mae'n esbonio'r enw:

"O ni'n gyrru lawr yr A470 o Fangor i Gaerdydd tua blwyddyn yn ol. O ni'n neshau at yr orsaf niwcliar bondigirybwyll yn Traws, a nes i benderfynnu stopio a mynd i fusnesa. Odd e'n rili wierd gyrru mewn i'r maes parcio, yng nghanol nunlle, gyda concrit a wifren bigog a'r monstrosity ymbylydrol ma o'n blaennau - a mix tape Alex empire yn blastio mas o'r car... cerddoriaeth eithafol ar gyfer lle eithafol... es i mewn i'r ganolfan ymwelwyr, a dweud mod i ishe edrych rownd yr adweithydd. Nathon nhw ddweud bod rhaid i chi fwcio guided tours, a base rhaid aros dwy awr os o ni moen joinio guided tour arall - Fuck that, o ni ddim ishe aros mwy na awr mewn lle mor beryglus"


Serch hynnu, roedd profiad DJ Geiger yn ddigon i'w ysbridoli i recordio traciau fel "Dim Byd ('Sdim byd yn Trawsfynydd / Just ymbylydredd'), "Trydan" ac "Bois Ar Y Dol". Mae'r gerddoriaeth yn swnllyd ac yn bell o fod yn easy listening. Lot o synnau electronic, distortion, ffyced up beats. Sut mae'r TLLF yn creu eu 'cerddoriaeth'?

DJ Geiger:  " Ma'r rhan fwyaf o'r stwff yn ddamweiniol - fel creu feed back electronic achos o ni wedi weirio pethe yn yr inputs/outputs anghywir. Pan dwi'n creu stwff, dwi'n recordio popeth, yna compresio a golygu'r recordiad gwreiddiol i lawr nes fod e'n pum munud yn lle 20, a jyst defnyddio'r darne gore. Ma popeth yn cael eu wneud adref, ac dyna shwd dwi ishe cadw'r concept, yn Lo-Fi"

Beth yw eich Dylanwadau?
"Gormod o stwff i'w rhestri, ond pethe fel Digital Hardcore, Cobra Killers, Panacea, Nostradamus, DJ Spooky, Malcolm Neon, The JAM's, Llwybr Llaethog a DJ Scud"

Beth felly yw cynlluniau'r TLLF ar gyfer y dyfodol?
"Parhau i recordio a gweithio ar album o'r enw 'Croeso I'r Canolfan Ymwelwyr' fydd mas gobeithio yn hwyrach yn y flwyddyn. Da ni ishe parhau i greu swn ac i wrthod chwarae offerynnau... ma fe mor ffycin obvious ac archaic"

Wy ti'n gallu chwarae unrhyw offerynnau?
"O ni arfer chwarae gitar, a dwi'n gallu chwarae'r piano, ond weithiau jyst achos bod rhywun yn gallu chwarae offeryn yn dda, diw e ddim bob amser yn golygu bod nhw yn gallu creu rhywbeth gwreiddiol a diddorol"





[Brechdan Tywod #5 - 2000]