"...Feistier than an Uzi 9mm..."











Newyddion trist i'r rhai sy'n hoff o bethe sy'n ddisglair a llachar - ni fydd y grwp mwyaf glamorys yng Nghymru, Crac, yn bodoli rhagor. Fe fydd y grwp i'w cofio yn orau am eu E.P 7" '4 Cracar' ddaeth mewn clawr fflyffi, croen llewpart pinc, ar recordiau R-Bennig. Roedd yr E.P yn cynnwys y cash-in Nadoligaidd di-gwilydd: 'Dolig Llawen (Hebddo Ti)' - yr unig anthem glam pync Nadoligaidd yn y fam iaith. Os nad oes copi gyda chi - caws caled! Mae'r record bellach yn collectors item. Does dim drwgdeimlad tu ol i'r grwp yn chwalu, mae Clancy a Pippa yn teimlo eu bod nhw wedi mynd mor bell a phosib i lawr un cyfeiriad cerddorol, ac yn teimlo nad oes angen gweiddi am pa mor crap ydy bechgyn rhagor.

Priododd Pippa eleni, ac mae bellach yn byw yn ddedwydd gyda'i chwn a'i chywion yng nghefn gwlad. Mae Clancy hyd yn oed wedi dod i'r casgliad bod rhai bechgyn yn 'eithaf neis'. "Ein bwriad ni ar y dechre oedd profi nad oedd rhaid i chi fod yn fachgen mewn anorac i ROCIO, a dwi'n meddwl wnaethon ni gyflawni ein gol" dywedodd Clancy "Os wnaeth CRAC lwyddo i ysbrydoli un merch i bigo lan gitar a rhoi 'mlaen party frock, yna fyddai'n hapus".



DISGOGRAFFI CRAC:

4 Cracyr EP
(R-Bennig 045) 7" 1998

Dolig Llawen (Hebddo Ti) / Rhieni / Can I Clive / Dw I'm Eisiau Fe.

Amlgyfrannog:

Ram Jam Sadwrn
(Crai CD055) CD 1996

"Does Dim Ots"

Hi Peach!
(Nana Records Nana4) EP 7" 1997

"Boy About Town"

Dial M For Merthyr
(Fierce Panda nongcd02) CD 1997

"Rollercoaster"

Revolving Doors And Department Stores
(howling Records Howl 001) CD 1998

"Daddy's Girl"

Radio:
Dau seshwn Radio Cymru ar gyfer "Ram Jam"
Teledu:
I-Dot - S4C, The Electric Chair - HTV







[Brechdan Tywod #5-Crac]