Kontia : Ni Yw Y Kontia

Mae ddau Gogs gwyllt, sef M.C. Ffarmwr ac M.C Pendafad wedi creu rap posse Cymraeg newydd. mae debut release nhw: Ni Yw Y Kontia wedi dod allan ar label "Neud Nid Deud" mis 'ma. Mae'r hogia yn frwnt ac yn hollol non PC - Hefyd mae'n nhw'n 'wallgo dros ben. Mae M.C. Ffarmwr yn dod o Llandildo, Gwynedd ac mae mae M.C. Pendafad yn dod o Abercrap, Dyfed.

Natho'n nhw cyfarfod "Busta Rhymes" yn "Clwb Kinki" yn New York City mis Ionawr eleni. Ar ol noson brilliant efo "Buster" a llwyth o pej thri teips, nath "Mr Rhymes' mynd yn ol i gwsty posh i powdro eu trwynau (coch).Y Bore wedyn nathon nhw deffro ar Concord efo master tape "Buster", a nodyn yn gofyn iddyn nhw neud rap dros y trac.

Y Diwrnod nesaf yn Llanrwle, ar ol sesh yn y p'nawn - a sesh arall yn y nos - Nath Ffarmwr a Pendafad codi yn y Bore a neud rap, ar ol cael Cornflecs a Guinness. Ma'r trac yn cynnwys bratiaith a rhegi. Ddim yn addas i blant - nag oedolin chwaith.

RHYBYDD: DDYLA GOGS SENSITIF DDIM CLYWED Y TRAC






Bore dydd Sadwrn oedd hi, ac mi oedd gen i hangover uffernol. Es i lawr y grisiau gan osgoi'r landlord a pigo lan y post. Bills, bills, gwys a mwy o blydi bills. Ond beth oedd y parsel amheus? Bom? Tu mewn oedd tap a chlawr coch. Edrychau fel audio death threat. Teitl y tap oedd Kontia. Bangio fe yn y beatbox ac roedd yn amlwg bod y ddau rappiwr gwyllt gogaidd yma mewn i'w hip hop, gyda team up o'r nefoedd, gyda neb llai na Busta Rhymes. Neidiais i mewn i'r Datsun 280ZX a gyrru fel cont lan i Flaenau Ffestiniog. erbyn i fi gyrraedd Tap Tan y Grisiau roedd Kontia yna'n barod.

"Lle ffwc ti di bod cont" oedd cyfarchiad MC Pendafad "Da ni wedi bod yma ers deg bore ma" Roedd MC Ffarmwr yn cnoi 'baco Cymreig ac yn poeri fel mochyn ar y llawr. Roedd y ddau wedi rhedeg allan o arian ac yn yfed slops cwrw o'r trays. Es i i'r bar a ordro tair peint o Wrexham Lager, edrychais ar fy watch roedd hi bron yn un o'r gloch y pnawn...

Gofynais i MC Pendafad beth oedd y stori tu ol i'w trac "Ni Yw Y Kontia". Edrychodd arnai gan rhygnu rhywbeth anweddus dan ei anadl "Dos i nol mwy o Lager cont" gwaeddodd MC Ffarmwr dros y dafarn cyn poeri ar y llawr pren. Mae'n debyg naeth y ddau gyfarfod Buster Rhymes mewn parti yn efrog Newydd. mae MC Pendafad yn rhoi'r hanes ar ol cymryd llond ceg o lager:"Oedd pej thri teips ym mhob man cont, wedyn ar ol powdro ein trwynau yn gwesty posh efo Busta, natho ni ddeffro ar Concord efo mastertape a nodyn yn deud:"Yo! Kontia! Gwna rap dros y trac yma, a mi na'i weld chdi ar Top Of The Pops cyn hir..."

Sut foi oedd Busta? Mae MC Ffarmwr yn edrych fel ei fod ar fin rhoi dwrn yn fy nrhwyn;"Ma fo'n licio ei Class A's" medd "Ma Busta yn trefnu World Tour i ni wythnos nesaf a da ni yn chwara gyda Bryn Fon yn y Cnapan 'sti cont"

Beth ydy hoff records y Kontia? "Dwi Isho bod Yn Sais gan Huw Jones, Yma, O Hud! gan DI/DRE, Ace Of Spades gan Motorhead, Joe Le Taxi gan Vannesa Paradis, Dull Di-Drais gan Llwybr Llaethog a Rhedeg I Baris gan yr Anhrefn" Mae'r prynhawn yn araf droi yn nos a dwi'n penderfynnu troi nol i Gaerfyrddin cyn i'r Kontia ddechre ffeit anferth yn y dafarn ...cont.




[Brechdan Tywod #4 - 1999]