Brechdan Tywod Yn Holi Ceri "C"


Ma nhw wedi bod wrthi ers pum mlynedd yn gigio ym mhob twll a chornel yng Nghymru. Aeth ein gohebydd, Mihangel Macintosh, draw i dy Ceri Cunnington, prif leisydd Anweledig i'w holi am Gaerdydd, Blaenau a Meibion Glyndwr. Roedd stafell fyw Ceri yn littered a channiau gwag Fosters, ac roedd Mr C mewn hwyliau da. "Da ni wedi gorffen y punch, ti isho can?". roedd cyfaill Ceri, Osian, yn chwarae Bongos, ac am rhyw rheswm roedd umbarel yn y toaster. Disgrifiad Ceri o Anweledig oedd criw o hogia "sy'n mwynhau bywyd, mwynhau'r crac" ac wrth edrych rownd y stafell fyw yn llawn o bobl yn canu "Beth am botel o gwrw?" i gyfeiliant bongos, allen i gredu fe. Roedd y bwz wedi rhedeg mas, felly fe benderfynnom ni fynd lawr i'r pyb.

Gan fod aelodau'r grwp yn byw dros y lle i gyd, Exeter, Lerpwl, Caerfyrddin a Blaenau, gofynais i Ceri os oeddent yn cael trafferth i rehyrsio a dod at eu gilydd i gigio. "Da ni ddim yn ymarfer" dywedodd"Da ni yn chwarae yr un set ers pum mlynedd, heb unrhyw beth wedi rhyddhau a braidd dim airplay." serch hynnu, mae'r grwp wedi cael cytundeb recordio gyda Sain i neud CD 10 can, fydd mas erbyn i chi ddarllen hwn."Pum diwrnod da ni'n cael yn y Stiwdio" rantia Ceri"Ar ol pum mlynedd i gyrraedd y stage yna"

Mae Mr C yn ordro peint o lager a Jack Daniels o'r bar, a dwi'n gofyn iddo fe sut aeth y gig yn Gaernarfon i rhyddhau Sion Aubrey o'r carchar.

"Ffycin gwleidyddol" ydy ei ymateb. Oedd na heddlu cudd yna? "Bob tro oedd y bass yn cicio mewn oedd aelodau MI5 yn rwbio eu mwstashis" Mae Ceri yna'n dechre canu "Beth am Botel o Gwrw" ar dop ei lais, ma'r boi tu ol y bar yn rhybuddio fe i fod yn dawelach, ond ma fe just yn cario mlan.

So, lle ma'r pub gore yn y byd Mr C?"Tap Blaenau... cysgu a byw 'na" A'r lle gore am lock in?"Tap" Record gore?"Paul McCartney Frog Song" Jiwcbocs y Black Lion vs Y Glob Bangor? "Tap vs Y Queens...di o ddim yn gwestiwn o wahaniaethu, just pawb yn mwynhau'r crac."

Beth ddigwyddodd tu fas i'r City Arms, Caerdydd?"Oedd gig gyda ni yn Clwb Ifor, daeth Iest a Osh atom ni yn y City Arms i gael peintiau cyn y gig, daeth perchennog y pub atom ni a dweud 'Scuse me, I don't want any indesirables in my pu' a nath o ffonio'r cops i gael ni mas"Cwpwl o beints yn ddiwedarach a da ni yn cael bygythiad arall i adael y pyb. Dwi'n gofyn be 'di plans Anweledig ar ol yr album. "Chwilio am ferched, gwerthu llwyth o albums a joio bywyd"





[Brechdan Tywod #3 - 1998]