Tystion


Yn gwibio rownd Kingsway, Abertawe mewn Capri Laser cefais gyfle i gael sgwrs gyda’r ddau rapiwr SLEIFAR a G-MAN o’r Tystion. Roedd y ddau mewn hwyliau da yn hongian allan o ffenestri’r car yn rhoi abuse i bedestrians lleol... edrychais ar fy watch, roedd yn tynnu am hanner awr wedi dau yn y bore, ond roedd y ddau dal i wisgo eu sbecs haul...


Mae’r Tystion wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar yn recordio caset newydd sbon danlli. Mae “Rhaid I Rhywbeth Ddigwydd” yn albym rymus ac egniol ar fin cael ei rhyddhau ar label Fitamin Un. Bellach mae’r grwp wedi bod wrthi yn rhyddhau nifer o dapiau tanddaearol o’i base yn Tanerdy. Gofynais i Sleifar sut y ffurfiodd y grwp gyntaf.

“O ni wedi bod yn recordio llawer o draciau reit od ers 1990, cyfnod o arbrofi gyda LSD a cheisio creu soundtracks oedd yn efelychu y profiad” Roedd y traciau offerynol hyn, gyda theitlau fel “Aros am y 5.45 i Frankfurt”, “Positif Edlin Auto” a “Breuddwydio Mewn Stereo”. Daeth y grwp i sylweddoli bod angen geiriau i’r gerddoriaeth - “Dyna pam nes i ddechre rappio” medd Sleifar o’r sedd gefn “cos dwi ffili canu.” Arweiniodd hyn at gydweithio gyda Johnny R o Recordiau R-Bennig, a recordio trac ar gyfer sesiwn Radio Cymru. Yn anffodus ni ddarlledwyd “Cicio Yn Erbyn y Tresi” oherwydd cynnwys subversive y gan. Dyma’r cyfnod daeth G-Man i gysylltiad a’r grwp ar ol anfon demo i Fitamin Un. Recordiodd y ddau gaset “Dyma’r Dystiolaeth” cyn cyd weithio gyda Alffa Un i greu caset sengl “Dan Y Belt”. Erbyn hyn mae lein up y grwp wedi chwyddo i gynnwys: Sleifar, G-Man, MC Chef, Gwion Ap Sion, Elen Wyn a Curig Huws.

Faint o rheolaeth sydd gan y Tystion dros eu cynlluniau?

Sleifar:”Ar hyn o bryd da ni’n gweithio gyda Steffan Cravos o Fitamin Un, mae e’n rhoi’r rhyddid i ni neud beth ni ishe yn y stiwdio, a wedyn rhyddhau’r cynhyrch.”

Ond a oes perygl bod ar label mor obscure na fydd fawr neb yn eich clywed?

Sleifar:”Na ddim rili, da ni wedi cael pobl yn ‘sgrifennu atom ni o Sweden ac America”
G-Man:”Ma’n amser i stopio ffycian rownd a mynd i top ger”

Pa negeseuon sy’n cael eu cyfleu?
Sleifar:”Ma hip hop yn codi dau fys ar y sefydliad a felly’n ddelfrydol i rhoi negeseuon gwleidyddol drosodd”
G-Man:”Ie, ma’r miwsig yn dod o’r teimlad o gael dy gorneli mewn cornel”
Sleifar:”Cytuno! Dwi’n gallu uniaethu gyda’r dyn du mewn ffordd. Mae’r Cymry fel y duon wedi cael eu gormesi yn economaidd ac yn ddiwillianol yn rhy ffycin hir!

G-Man:”Ma pobl cul yn cymysgu ffasgiaeth a annibynniaeth, yr unig amser pam fydd gwlad yn rhydd pam ti ddim yn gorfod poeni am identiti. Mae’n dilyn felly bod cerddoriaeth Cymru yn well na cherddoriaeth Lloegr. Ma lot o’n miwsig yn cael eu eni allan o anobaith”

Beth yw eich cynlluniau i’r dyfodol?

Sleifar:”Cwbwlhau’r CD newydd ac aros allan o drwbwl”
G-Man: “Stopio rhegi a cael y geiriau i lifo’n well”

Dylanwadau?

G-Man:”Tan, dwr, gwynt a pridd. Dwi wedi bod yn Bagan ers deng mlynedd”
Sleifar:”Pobl a llefydd. Jest y criw dwi’n hongian mas gyda adref”

Arwyr y byd rap?

Sleifar:”Yn sicr, Chuck D”
G-Man:”Ice Cube, Everlast a rappers sy’n osgoi rhegi yn ogystal”




Ydych chi o’r farn fod cerddoriaeth rap a hip hop yn fysoginaidd, babiaidd ac yn insult i’r intelligence?

Sleifar:”Ffyc na! Get the fuck off my case ya bitch!”
G-Man:”Ma Blur a Menswear etc yn fwy o insult i’r intelligence... ffycin Camden pussies”

Ydy rap yn trend?

Sleifar:”Hell na! mae wedi bod gyda ni ers y saithdegau hwyr, wedi goroesi i mewn i’r nawdegau. Pan ddaeth y ffrwydriad jazz yn y tridegau, fel gyda rap, ddwedon nhw fydde fe ddim yn para’n hir... so ffwcio’r critics”

G-Man:”Ma’r gendre rap yn berffaith i sboutio a gweiddi am bethe sy’n pissio ti off ac yn gallu bod 100 gwaith mwy diddorol a ysbrydoledig na chaneuon fwy traddadiadol. Mae ‘Mama Said Knock You Out' gan LL Cool J neu ‘Pulse Of The Rhyme’ gan Ice T yn cynhyrfu fi gymaint a ‘Nessun Dorma’ gan Pavarotti”

Ac i Gloi?
G-Man:”Iwsiwch y goriad”
Sleifar:”Get off your arse i neud rhywbeth creuadigol yn lle bod yn boring a stoned.”