Gwelodd diwedd yr 80au gyfnod cuffroes i nifer o wledydd Dwyrain Ewrop, yn mynni eu hannibyniaeth ac yn hawlio rhyddid. Mewn sawl gwlad, llenorion oedd ar flaen y gad. Yn Siecosoflacia, er engraifft, dodwyd Vaclav Havel yn y carchar am ei fynegiant drwy farddoniaeth. Defnyddio llenyddiaeth i wrthwynebu'r system, fel dull o brotestio.

"...Pwy yw'r meistyr sy'n pregethu/ Y polisiau sy'n dal i fethu."


O Siecosoflacia i Gymru 1994 a'r grwp pop Y Quango yn mynd i'r afael a ymosod ar bolisi 'Nol i'r Sylfaeni' y llywodraeth geidwadol. Meistr=Major. Ceir ymateb i bolisiau economaidd Llundain. Mae Cymru a'r ffigyrau uchaf yn Ewrop am fammau sengl, a dydi Back to Basics yn cynnig dim, ond eu defnyddio fel scape goats am fethiant polisiau ariannol y Ceidwadwyr ers yr 80au/90au.

Llenyddiaeth ydy ffrwyth Cymdeithas. Mae'n gynhyrch a chanlyniad o le ac adeg arbennig. Edrychwn ar Gymru yn y nawdegau. Rol y bardd medde Dafydd Morgan Lewis ydy "Ymateb i'r her o fyw yng Nghymru ar ddiwedd yr Ugeinfed ganrif" Gwlad gyda 'i phroblem mewnlifiad parhaol, wrth i Saeson brynnu tai gan orfodi pobl leol i symud allan o'i ardaloedd. Sefyllfa drychinebus o gymunedau Cymreig yn marw allan. Gwelwn Gymdeithas Yr Iaith yn ymateb gyda'i hymgyrchoedd am ddeddf iaith a deddf eiddo ond mae'r broblem yn un byw:

"Nid yw Cymru ar werth / Ond mae ar werth nawr... am hanner swllt"

Oedd sylw canwr Datblygu, David R.Edwards yn ei fershwn nhw o Hen Wlad Fy Nhadau. Un sydd wedi treilio cyfnod o'i fywyd yn ddi-gartref a delio gyda phroblem gymdeithasol gyfoes drwy ei ffarddoniaeth. ceir digon o farddoniaeth yn ymdrin ac argyfwng yr iaith a gormes y sais, ond efallau ceir ymdriniaeth wahanol i bynciau cyfelyb mewn geiriau caneuon pop cyfoes. mae pobl fel David R.Edwards yn fwy parod i brofocio a gwneud datganiadau dadleuol.

Yn sgil difrifoldeb sefyllfa y Mewnlifiad, mae rhai wedi mynd gam ymhellach na ymgyrchi di-drais Cymdeithas Yr Iaith. Ers diwedd y Saithdegau mae ymgyrch losgi M.G. wedi bod yn bwnc llosg Yng Nghymru. Mae lle i amhau os taw Cenedlaetholwyr eithafol neu aelodau o'r Gwasanaeth Cudd sy'n gyfrifol, ond mae'r rhai sy'n gyfrifol yn llwyddo i dderbyn cyhoeddusrwydd. Gan grisiali diwedd cyfnod yr 80au Thatcheraidd, ymateb Llwybr Llaethog am yr ymgyrch losgi oedd "Gimi Gimi":

"Mae nhw wedi dwyn ein dwr/ A fi yw Owain Glyndwr / ...Mae fy meibion yn yr heddlu cudd"
"Llosgi lawr cerddoriaeth ty / Fel mae'r heddlu'n llosgi bythynod/ Tyddynod, chi'n gwybod"


Nid rhywbeth newydd ydy canu gwleidyddol o bell ffordd. Roedd 'I'r Gad!' yn ei amser mor berthnasol a chaneuon protest Steve Eaves heddiw. Mae brwydr yr Iaith a brwydr y genedl yn parhau, a maes y Gad mo'r waedlyd ac erioed:

mae'r siarad yn sh...shrapnel
yn ddarnau metal gwyias
sy'n s...s...serio'r cnawd
a rhwygo sgrech o berfedd nos